.

Arglwydd Dyma Fi Lyrics

Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi
I ddod a golchi 'meiau
Yn Afon Calfari.
Arglwydd, dyma fi
Ar Dy alwad Di,
Canam henaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari

Yr Iesu sy'n fy ngwadd
I dderbyn gyda'i saint,
Ffydd gobaith, cariad pur, a hedd,
A phob rhyw nefol fraint.
Gogoniant byth am drefn
Y cymod a'r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed.

Arglwydd, dyma fi
Ar Dy alwad Di,
Canam henaid yn y gwaed
A gaed ar Galfari
Report lyrics